Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

 

Mae CYDAG (Cymdeithas Dros Addysg Gymraeg) yn cynrychioli dros chwarter o ysgolion uwchradd Cymru.

 

Yn gyntaf, mae CYDAG o’r farn bod yna lawer i’w gymeradwyo yn y Bil drafft hwn. Yn gyffredinol mae’n gwella’r fframwaith a’r prosesau sy’n ymwneud ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) o’u cymharu gyda’r hyn sydd mewn bodolaeth ar hyn o bryd.

Fodd bynnag mae CYDAG am gyflwyno’r sylwadau canlynol.

Y Gymraeg

Dylid nodi yn hollol glir mae nid ymgyrch dros yr iaith sydd gennym o dan sylw yn y fan yma ond, yn hytrach, ymgyrch i sicrhau bod pob agwedd o brosesau cyfundrefn ddiwygiedig ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gael yn hollol gyfartal trwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg neu’n ddwyieithog yn unol â dymuniad y plentyn, person ifanc a'r teuluoedd. Mae yna ddiffyg sylfaenol yn y Bil drafft. Mae wedi hepgor, bron yn llwyr, unrhyw sylw at natur ddwyieithog Cymru – does dim sôn o gwbl am yr hawl i wneud defnydd cyfartal a chydwerth o’r Gymraeg a’r Saesneg nac i gynnal prosesau yn ddwyieithog. Yn wir heb law am gymalau sy’n cyfeirio at nodi os oes angen am unrhyw ddarpariaeth addysgol ychwanegol trwy gyfrwng y Gymraeg, mae’r Bil drafft yn darllen fel petai ar gyfer gwald uniaith yn unig.

Nawr bod gan Lywodraeth Cymru’r pwerau i greu deddfwriaeth ei hunan mewn rhai meysydd o gyfrifoldeb a ddatganolwyd o Lywodraeth y DU i’n Llywodraeth ninnau yng Nghaerdydd, mae yna ddisgwyliad bod y ddeddfwriaeth a gynhyrchir yn adlewyrchu ein hunaniaeth ni fel gwlad a chenedl.

Fodd bynnag, trist yw gorfod datgan fod y Bil drafft hwn yn fethiant llwyr yn hyn o beth.

Pam? Does yr un cymal bron yn y Bil drafft sy’n sôn am natur ddwyieithog ein gwlad. Mae hynny’n wir drwy’r Bil drafft cyfan. Mae’n arbennig o wir yn y mannau o’r Bil lle mae’n cyfeirio at gynnwys plant, pobl ifanc a rhieni mewn unrhyw rhan o’r fframwaith a’r prosesau sy’n ymwneud ag ADY.

Dylai’r Bil ddatgan, fel un o egwyddorion sylfaenol y ddeddfwriaeth, bod gan bob plentyn, person ifanc, rhieni a theuluoedd yr hawl i gael pob ac unrhyw agwedd o brosesau’r Bil trwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg neu yn ddwyieithog yn unol â dymuniadau’r unigolion.

Ni ddylai’r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Dylid hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg fel congl fain ym mhob darn o Ddeddfwriaeth sy’n deillio o’n Llywodraeth ni yng Nghymru.

Dylai’r hawl hwnnw fod ar gael o gychwyn y broses o benderfynu os oes gan unigolyn ADY ynghyd â’r prosesau byddai’n dilyn i ymateb i unrhyw ADY a thrwy gydol y broses hyd at y terfyn mewn achosion a fydd yn cyrraedd y Tribiwnlys.

Ar hyd y daith, dylai fod yn orfodol ar i bob corff sy’n ymwneud â’r prosesau sicrhau yr hawl i ddewis iaith/ieithoedd y drafodaeth gan gynnwys unrhyw ddogfennau neu dystiolaeth.

Dylid gosod datganiadau egwyddorol sylfaenol o’r fath yw ymhob adran a chymal o’r Bil ei hun ac nid yn unig mewn unrhyw ddogfen arall megis Memorandwm neu God.

Heb wneud hynny, mae’r Bil drafft yn darllen fel Bil ar gyfer unrhyw wlad uniaith Saesneg lle nad oes unrhyw iaith sydd â hawliau cyfwerth a chyfartal fel sy’n bodoli rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru.

Yn ogystal â datgan yr egwyddor sylfaenol o ran cael dewis ymwneud â fframwaith a phrosesau ADY trwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg neu’n ddwyieithog, dylid hefyd osod cymalau hollol glir i’r un perwyl ym mhob adran a chymal perthnasol o’r Bil. Yr adrannau mwyaf amlwg (er nid yn holl gynhwysfawr) yw’r adrannau hyn:

·         Cyfranogiad a mynediad i wybodaeth (para 6 i 7)

·         Llunio a chynnal cynlluniau datblygu unigol

·         Anghytundebau ac apeliadau (para 37 i 44)

·         Atodol (para 45 53) gan gynnwys gwneud yn orfodol i bob corff allanol yn ogystal â’r ysgolion, colegau ac ALl, i ddarparu gwasanaeth, tystiolaeth a chyngor trwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg neu yn ddwyieithog yn unol â dymuniad unigolion a theuluoedd.

·         Cyffredinol (para 54 i 55)

·         Tribiwnlys Addysg Cymru (para 63 i 65), fel sy’n wir am y Bil drafft drwy’r trwch, does dim un sôn am yr angen i sicrhau yn bydd y Tribiwnlys yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg neu’n ddwyieithog yn unol â dymuniad pob achos unigol a ddaw gerbron.

 

Gofynna’r Pwyllgor am ymatebion sy’n nodi unrhyw rhwystrau posibl i roi’r prif ddarpariaethau ar waith. Dyma rai sylwadau.

 

Symud anawsterau a phroblemau

 

Mae’r Bil yn ceisio lleihau neu waredu anawsterau sy’n codi wrth weithredu o dan y drefn bresennol. Mae hynny, wrth reswm, i’w gymeradwyo

 

Fodd bynnag, cred CYDAG bod y Bil yn cymryd safbwynt gor-optimistaidd o ran y raddfa y bydd yr anawsterau a’r problemau yn lleihau.

 

Mae’r Bil yn symud llawer o’r cyfrifoldebau o du’r ALl i’r ysgolion. Mae yna ddau sylw i’w gwneud.

 

Yn gyntaf, un o amcanion y Bil yw creu mwy o gysondeb gweithrediad ar draws yr ALlau. Hyd yma, gwelwyd bod yna anghysonderau yn y modd mae’r ALlau wedi bod yn gweithredu. Fodd bynnag, mae’r Bil yn symud y cyfrifoldeb o benderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY o’r ALL i’r ysgol. Yr ysgol bydd hefyd yn gyfrifol am benderfynu ar y ddarpariaeth fydd ei angen ar gyfer unrhyw blentyn ag ADY. Felly, o ran y sector uwchradd yn unig, mae hynny yn golygu dros 200 o wahanol ddehongliadau lle gynt roedd yna 22 ALl.

 

Mae hyn yn arwain ymlaen at y sylwadau nesaf.

 

Cynyddu llwyth gwaith ysgolion ac, yn benodol, yr unigolion bydd yn y rôl Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY)

 

Mae’n amlwg y gallai hynny arwain at fwy o anghysonderau a mwy o achosion o wrthdaro rhwng teuluoedd ac ysgolion.

 

Bydd hyn oll yn golygu cynnydd sylweddol yn llwyth gwaith ysgolion, ac yn benodol pob Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY). Bydd rôl y CADY yn un sylweddol iawn, iawn. Yn wir, mae’r swydd ddisgrifiad a gynhwysir yn y Cod, yn  awgrymu’n gryf y bydd yn swydd llawn amser. Tra bod hynny eisoes yn wir yn ein hysgolion mwyaf, nid yw bob amser yn wir yn ein hysgolion uwchradd llai (heb sôn am yr ugeiniau o ysgolion cynradd bychain sydd yng Nghymru).  Bydd yna oblygiadau staffio, ac felly cyllidol, ynghlwm â  gweithredu gofynion sylweddol y Bil drafft.

 

Hyd yn oed mewn sefyllfa lle mae, neu y bydd yn bosib, penodi person llawn amser i rôl y CADY, bydd gallu ac amser y person hwnnw i ymwneud yn uniongyrchol ag addysgu yn brin iawn, iawn.

 

Anghenion hyfforddiant sylweddol ar bawb a fydd ynghlwm â gweithredu’r Bil drafft ar lawr gwlad: llywodraethwyr, Cydlynwyr (CADY), athrawon a staff cynorthwyo, ALl a phob corff allanol mae’r Bil yn cyfeirio atynt

 

Mae’r Bil drafft yn golygu newidiadau sylweddol a sylfaenol i’r holl gyfundrefn ADY.

 

Er mwyn sicrhau gweithrediad llwyddiannus y Bil bydd angen buddsoddiad sylweddol i osod hyfforddiant trylwyr yn ei le ar gyfer pob rhanddeiliad a nodir uchod.

 

Mae’n amlwg bod yna angen ariannu sylweddol i wneud hyn yn ogystal â dod o hyd i’r amser o ansawdd bydd ei angen ar yr hyfforddwyr a’r rhai bydd yn derbyn hyfforddiant.

 

Mae yna ddau ddimensiwn i’r hyfforddiant. Yn y lle cyntaf, bydd angen ton fawr o hyfforddiant wrth drosglwyddo o’r gyfundrefn bresennol i’r un newydd – ni ellir tan fesur maint yr her honno.

 

Yn ail, bydd angen hyfforddiant treigl parhaus i sicrhau bod yr holl rhanddeiliaid ar draws yr ystod lawn o gyrff yn medru hyfforddi staff ac aelodau newydd fel mae’r gweithlu’n newid ac aelodau newydd yn ymuno â chyrff.

 

Yn achos ysgolion, rhaid i’r Llywodraeth sylweddoli mai dim ond un darn swmpus o agenda newid mwy swmpus fyth yw ADY. Mae’r gyfundrefn yn wynebu cyfres niferus o heriau mawrion eraill gan gynnwys cyflwyno meysydd llafur newydd ar gyfer TGAU Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn ogystal â chydio yn yr agenda heriol iawn y mae adroddiad Dyfodol Llwyddiannus yr Athro Donaldson yn ei  osod.

 

Ni ellir gorbwysleisio cymaint o her yw hyn oll i Lywodraeth Cymru ac i’r holl rhanddeiliaid ac yn enwedig yr ysgolion a’u hathrawon.

 

Gofynnir i’r Pwyllgor a’r Llywodraeth mynd i wir afael ag amcangyfrif faint o ddyddiau o hyfforddiant proffesiynol, cychwynnol wrth gyflwyno blaengaredd ac yna’n dreigl barhaus, fydd ei angen er mwyn gweithredu holl newidiadau’r Llywodraeth ar draws y gyf8undrefn addysg. Wrth reswm mae yna gost ariannol yng nghlwm â hynny. Ond yr un bwysiced, os nad yn bwysicach, mae yna hefyd cost addysgol botensial yna hefyd os na newidir y gyfundrefn gynhaliaeth broffesiynol bresennol. Ar hyn o bryd, ac mae hyn yn arbennig o wir yn achos yr ysgolion arloesol, mae ysgolion yn teimlo straen sylweddol oherwydd  yr angen i ryddhau athrawon i fynychu cyfarfodydd mewn  ymateb i’r holl newidiadau sydd yn yr arfaeth. Mae sawl ysgol o’r farn bod safonau addysgu a dysgu yn cael eu herydu oherwydd hynny. Bydd cyflwyno y newidiadau ADY yn effeithiol yn ychwanegu at y straen hwnnw.

 

 

 

 

Wrth newid rôl ysgolion ym mhrosesau ADY, mae’n eu gosod nhw mewn man sefyllfa lle bydd yna dyndra o ddiddordeb

 

Mae’r Bil yn gosod y cyfrifoldeb o benderfynu a oes gan blentyn/disgybl ADY ai peidio. Os  penderfynir fod gan unigolyn ADY, yr ysgol bydd hefyd yn gyfrifol am lunio Cynllun Datblygu Unigol ynghyd â phenderfynu ar ba adnoddau bydd eu hangen i foddio’r Anghenion ac i weithredu’r ddarpariaeth.

 

Ond yn y cyfnod presennol, a’r blynyddoedd nesaf, mae’r ysgolion, a’r gyfundrefn addysg yn gyffredinol, yn dioddef toriadau i’w cyllidebau. Bydd eu sefyllfaoedd cyllidol yn rhai anodd iawn.

 

Gallai hynny greu tyndra o ddiddordeb rhwng bod yn gyfrifol am y prosesau ADY ar un llaw, a llunio a gweithredu cyllidebau cyfreithlon (h.y. yn y ‘du’) ar y llaw arall. Bydd hynny’n gosod ysgolion mewn sefyllfa anodd. Fe all hefyd fod yn wreiddyn anghydfod a gwrthdaro rhwng ysgol a theuluoedd.

 

Ariannu

Eisoes mae’r sylwadau uchod wedi cyfeirio at yr angen am ariannu digonol i wireddu dyheadau’r Bil o osod cyfundrefn well yn ei lle.

 

Nid yn unig y bydd angen am ariannu digonol ond, hefyd, sicrhau y bydd modd adnabod pa gyllid a fwriedir ar gyfer gweithredu’r Bil yn y Grant Addysg Gyffredinol a sicrhau llwybrau archwilio clir o hynny drwy’r gyfundrefn o’r Llywodraeth lawr i’r ysgolion unigol.

 

 

Diolchir am y cyfle i fynegi barn ar y Bil drafft.